Trawsnewid Bangor

Cefndir prosiect Trawsnewid Bangor

Mae Cyngor Dinas Bangor wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru o'r enw arian cyfalaf Trawsnewid Trefi.

Mae Cyngor y Ddinas, gyda chefnogaeth Bangor yn Gyntaf, wedi defnyddio'r arian hwn ar gyfer prosiect Trawsnewid Bangor ac i wella'r Stryd Fawr o'r Gadeirlan i Stryd y Deon.

Mae’r rhan hon o’r Stryd Fawr wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer ac yn dioddef oherwydd diffyg buddsoddiad, diffyg ymwelwyr a siopau gwag.

Nid yw’r heriau a wynebir ym Mangor yn ddim gwahanol i’r rhai a welir mewn mannau eraill – mae enwau mawr fel Debenhams, Top Shop a H&M i gyd wedi gadael y Stryd Fawr. Mae'r ardal wedi dechrau dangos arwyddion o adfeiliad sydd yn eu tro yn amharu ar fuddsoddiad gan fusnesau. Gobaith Cyngor y Ddinas yw y bydd y buddsoddiad o'r arian grant yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad gan fusnesau. Gobeithiwn y bydd nifer yr ymwelwyr â Chanol y Ddinas hefyd yn gwella.


Beth fydd yn ei wneud?

Byddwn yn defnyddio'r cyllid hwn i gynnal cyfres o ymyriadau ar raddfa fach ar y Stryd Fawr gan gynnwys atgyweirio siopau, gorchuddion finyl a gwelliannau i'r parth cyhoeddus.

Mae Cyngor y Ddinas yn gweld y gwaith hwn fel y cam cyntaf o drawsnewid y Stryd Fawr yn y tymor hir. Cydnabyddir bod angen newid sylfaenol i ddatblygu’r Stryd Fawr i ddarparu ar gyfer arferion gwario gwahanol y gymdeithas fodern a bydd hyn yn cymryd amser.

I gychwyn y daith honno, nod y prosiect hwn yw trin. . .

1. Gorchuddion finyl i flaen siopau gwag
Er mwyn helpu i fywiogi a gwella delwedd y Stryd Fawr mae delweddau finyl ar flaenau siopau gwag wedi'u darparu.
2. Cwteri
Mae cwteri’r holl adeiladau ar hyd y Stryd Fawr o Stryd y Deon i'r Gadeirlan wedi'u clirio. Mae'r isdyfiant wedi'i dynnu gan sicrhau bod y cwteri’n gweithio'n iawn ac yn cyfeirio'r dŵr at y draeniau priodol.
3. Glanhau Dwfn i’r Strydoedd
Efallai eich bod wedi sylwi bod tîm Ardal Ni Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio'n galed i lanhau'r palmant yn ddwfn.

Mae'r ardal sydd wedi'i glanhau'n ddwfn o Stryd y Deon i'r Gadeirlan. Mae Cyngor Dinas Bangor yn gobeithio y bydd hyn yn gwella golwg y Stryd Fawr i'r cyhoedd ac ymwelwyr â'r ardal.
4. Parth Cyhoeddus
Bydd y parth cyhoeddus hefyd yn cael ei weddnewid gyda phlanhigion newydd, dodrefn stryd newydd a raciau beiciau newydd. I gyd-fynd â hyn hefyd bydd cynllun plannu cynhwysfawr i wella'r ardal. Bydd cyfres o fasgedi crog a chynwysyddion rhwystr ar ffensys a physt lampau i ddod â lliw y mae mawr ei angen i'r gofod. Bydd plannu ychwanegol hefyd yn cael ei ychwanegu at rai o’r dysglau presennol. Bydd rhai o'r hen ddysglau yn cael eu symud i ardaloedd eraill o'r ddinas.

Hoffai Cyngor y Ddinas annog teithio cynaliadwy o fewn y ddinas. Fel rhan o'r prosiect hwn rydym yn buddsoddi mewn 4 gorsaf wefru beiciau. Bydd 2 wedi eu lleoli drws nesaf i Gaffi Hafan ym mharc Tan y Fynwent a 2 i lawr ger y pier. Yn ogystal â'r rhain, rydym yn gosod 2 bwynt gwefru cerbydau trydan wrth y pier.
5. Gwaith gwella'r Stryd Fawr yn y dyfodol

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r siopwyr, yr Ardal Gwella Busnes, Cyngor Gwynedd a rhanddeiliaid eraill i sicrhau ein bod yn targedu’r ymyriadau cywir.

Y gobaith yw y bydd rhagor o arian a buddsoddiad yn cael eu chwilio i barhau i wella canol y ddinas a sicrhau newid sylfaenol yn ffyniant y ddinas.