Gorffennaf 2021

Amlinellaf y camau yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn arwain at ail-agor y rhan yma o’r Stryd Fawr am 9 y bore ddydd Mercher 7fed Orffennaf fel a ganlyn:

  • Ail wynebu’r gyffordd rhwng y Stryd Fawr a Lon Bopty - Dydd Llun 28 i Ddydd Mercher 30ain Fehefin [wedi ei gwblhau].
  • Ail wynebu a thacluso’r ffordd lle sefydlwyd y craen Ddydd Iau 1af ac 2ail Orffennaf
  • Datgysylltu sgaffald ac ail godi sgaffald newydd ar y llwybr troed 5ed Orffennaf
  • Twtio’r safle a glanhau’r ffordd a phalmant 6ed Orffennaf
  • Tynnu’n arwyddion i lawr a sicrhau diogelwch ac ail agor y ffordd am 9 y bore.– Ddydd Mercher 7fed Orffennaf

Mai 2021

Yr wyf yn falch iawn o gadarnhau bod y gwaith dymchwel ar 164 a 166 Stryd Fawr, Bangor yn mynd yn dda er gwaethaf y tywydd gwlyb a gwyntog diweddar.

Yn ystod mis Mehefin fe fydd yr agweddau canlynol yn cael eu cwblhau sef:

  • W/C 31 Fai – cwblhau dymchwel 164/166 Stryd Fawr.
  • W/C 7fed Fehefin – Tyllu allan y peiliau yn y ffordd a chlytio rhannau o’r ffordd fel mae angen.
  • W/C 14 Fehefin – Clirio’r safle a sicrhau bod popeth o safon (Cwblhau cam 2 o’r contract Dymchwel 2).
  • W/C 28 Fehefin - Ail wynebu darnau o’r ffordd a chyffordd am Lon Bopty
  • Edrych i ail agor yn gyfan gwbl ar benwythnos 3ydd a 4ydd Orffennaf.

Mawrth 2021

Annwyl Oll
Yr wyf yn falch iawn o allu adrodd bod y gwaith i sefydlu sylfaeni ar gyfer lleoli craen i ddymchwel 164 a 166 Stryd Fawr yn parhau i gadw i’r amserlen, er gwaethaf rhai heriau technegol. Disgwylir i’r gwaith yma gael ei gwblhau erbyn dydd Gwener 9fed Ebrill 2021.

Fe fydd gwedd 2 wedyn yn cychwyn ddydd Llun 12 Ebrill 2021, ac yr wyf ar ddeall y disgwylir i’r wedd yma gymryd tua 7 wythnos i’w gwblhau. Felly'r cwestiwn mawr yw, pryd fydd y ffordd yn ail agor, ac o’r amserlen bresennol gallaf adrodd mai diwedd Mai/ dechrau Mehefin sy’n rhesymol i ddisgwyl.

Mae agwedd ychwanegol carwn eich barn arno. Mae ADRA yn datblygu tai dros y ffordd i Varsity [137 Stryd Fawr], ac angen cau'r ffordd am wythnos i ddelio gyda phibell carthffosiaeth. Fe fydd angen cau rhwng 137 Stryd Fawr hyd at Lon Bopty fydd wrth gwrs yn cael effaith ar y sawl angen mynediad i Lon Bopty a Chaellepa. Mae posib sicrhau mynediad heibio’r hen Ysbyty Minffordd ac Hendrewen, ac fe fyddwn yn argymell goleuadau traffig yn y rhannau cul.

Fel y gwelaf mae dau opsiwn sef:

  1. Delio gyda’r aflonyddwch o gau’r ffordd mewn 2 leoliad, ac agor ar ôl cwblhau’r gwaith 164 a 166 Stryd Fawr a bod cyfnod sefydlog wedi hynny.
  2. Disgwyl i’r gwaith 164 a 166 Stryd Fawr gael ei gwblhau a’r ffordd i agor yn y lleoliad hwnnw cyn cau’r rhan arall fel bod mynediad eithaf rhwydd i drigolion Lôn Bopty a Chaellepa.

Cadarnhaf ein bod mewn trafodaethau gydag ADRA, ond eu bod yn awyddus bwrw ymlaen gyda’i gwaith er mwyn codi tai angenrheidiol i drigolion sydd wirioneddol eu hangen. Fe fyddwn wrth gwrs yn annog trafodaeth gyda thrigolion gyda’r ddau opsiwn.


Annwyl oll
Yn gyntaf oll carwn ddiolch i chwi am eich amynedd gyda’r sefyllfa yma. Fe ddaru mi addo i chwi yr wythnos diwethaf ddod yn ôl atoch yr wythnos hon gyda mwy o bendantrwydd ynglŷn â bwrw ymlaen gyda gwaith ar 164 a 166 Stryd Fawr, Bangor fel y gallwn ail agor y Stryd i draffig.

Yr wyf yn falch iawn o gadarnhau bod perchnogion y 2 eiddo wedi cytuno i geisio cychwyn ar y gwaith mor fuan ag sy’n bosib. Nid yw contractau gyda’r sawl sydd am fod yn ymwneud a’r gwaith ffisegol wedi eu harwyddo hyd yma, ond maent yn edrych i ddechrau’r gwaith ar y safle yn ystod yr wythnos 1af Chwefror 2021. Yr wyf yn falch iawn felly na fydd angen i ni fel Cyngor barhau gydag achos cyfreithiol i gymryd rheolaeth o’r sefyllfa.

Bwriedir cwblhau’r gwaith mewn 2 ran. Fe fydd y rhan cyntaf yn ymwneud a chryfhau’r ffordd ar gyfer lleoli craen i alluogi i’r gwaith dymchwel fwrw ymlaen. Rhagwelir i’r gwaith o gryfhau’r ffordd gymryd oddeutu 7 wythnos. Unwaith y bydd craen wedi ei lleoli ar y safle yna fe fydd yr ail ran, sef dymchwel yr adeiladau yn gallu bwrw ymlaen, a rhagwelir i’r gwaith hyn gymryd oddeutu 5 wythnos. Felly, i fod yn realistig am y sefyllfa rhagwelir y bydd y Stryd Fawr yn agored mis Mai 2021. Fe fyddwn yn pwyso am ddiweddariadau a fwy o bendantrwydd ar yr amserlen wrth i’r gwaith fwrw ymlaen.

Yr ydym yn cydnabod yn hollol bod y sefyllfa yma wedi bodoli am amser hir, ond gallaf eich sicrhau bod cymhlethdodau technegol a chyfreithiol wedi rhwystro cynnydd, ond yr ydym yn falch iawn bod sefyllfa nawr wedi ei gyrraedd lle yr ydym am weld gwaith yn symud ymlaen ar y safle.

Fe wnaf sicrhau bod diweddariadau o ran y gwaith yn cael eu rhannu yn rheolaidd gyda chwi.

Diolch yn fawr iawn,

Pier Garth Bangor: Cystadleuaeth i ddarganfod Bwystfil y Fenai

HYSBYSIAD O GYFETHOL

29/06/2021
Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Ward Dewi

Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod 1 sedd gwag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a fod y Cyngor Dinas yn bwriadu cyfethol.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Dinas dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:*

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neuyn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

*Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Mae’r gyfrifoldeb yn eistedd gyda’r ymgeisydd i sicrhau eu bod yn gymwysedig i ymgeisio.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn townclerk@bangorcitycouncil.com; 01248 352 421 erbyn 16/7/21.

Llofnodwyd: Iwan Williams
Dyddwyd: 29/6/21
Clerc y Cyngor


Rhowch waed ym Mangor mis Mehefin yma

14/06/2021
Gall achub 3 bywyd mewn un awr o’ch amser

wbs.wales/CyngorDinasBangor

Cyngor Dinas BangorSedd Wag Achlysurol – Ward Dewi

01/06/2021
Rhoddir rhybudd trwy hyn o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Dewi ar Gyngor Dinas Bangor.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Llun,

21 Mehefin 2021.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan Cyngor y Ddinas.


PIER GARTH BANGOR YN DATHLU EI BENBLWYDD YN 125 OED

Mai 14, 2021

Heddiw (14 Mai 2021) mae Pier Garth Bangor yn dathlu ei ben-blwydd yn 125 oed. Ar y diwrnod hwn yn 1896, agorwyd y pier yn swyddogol gan yr Arglwydd Penrhyn yn dilyn gorymdaith drwy’r ddinas gyda thyrfa o dros 5,000 o bobl wedi ymgasglu i wylio’r seremoni agoriadol. Ond yn amlwg, bydd eleni’n wahanol. Nid oes modd cynnal digwyddiad mawr oherwydd pandemig Covid-19, ond bydd dathliadau serch hynny. Am 11am, bydd Maer Bangor, y Cynghorydd Owen Hurcum yn dadorchuddio plac newydd i goffáu’r 125 mlynedd. Gan ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol, bydd y Maer yn cael cwmni aelodau eraill o Gyngor Dinas Bangor, deiliaid y ciosgau a chynrychiolwyr Ffrindiau Pier Garth Bangor, grŵp newydd o wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda Chyngor y Ddinas i roi cymorth a chefnogaeth i ymwelwyr ar y pier a sicrhau fod y pier yn ffynnu a bod dyfodol cynaliadwy o’i flaen.

Cyn y dyddiad pwysig, dywedodd Maer Bangor Cyng Owen Hurcum “Ein pier yw trysor ein dinas arbennig, sy’n cynnig i bawb sy’n mentro arno rai o’r golygfeydd godidocaf y gallwch eu dychmygu. Bu’n gaffaeliad i’n dinas ers dros 125 o flynyddoedd, ac mae wedi gwasanaethu pobl y ddinas drwy’r amser hwn. Wynebodd y pier heriau niferus drwy ei oes, dim yn fwy efallai na’r atgyweiriadau strwythurol diweddar a olygodd fuddsoddiad anhygoel o dros £1.8m i sicrhau bod y strwythur hwn yn goroesi am y 125 mlynedd nesaf.”

“Allwn ni ddim troi allan fel dinas heddiw i ddathlu ei ben-blwydd pwysig, ond gallwn ac fe fyddwn, yn dathlu’r pier yn ei ffordd ein hunain. Mae’r pier yn rhan o enaid y ddinas hon, mae’n rhan o hiraeth Bangor ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ei hanes o hyn ymlaen.”

Meddai Avril Wayte, Cadeirydd Ffrindiau Pier Garth Bangor:

“Mae’n fraint enfawr i ni gael bod yn rhan o bier Garth Bangor, a chwarae rôl ganolog mewn gwarchod y pier i’r dyfodol, yn enwedig gan ein bod yn galluogi’r gymuned leol i gymryd rhan yn y broses honno. Ein pier ni – yn eiddo i Gyngor y Ddinas ac yn hoff gan bawb.”

Bydd y pier yn cael ei oleuo heno i nodi’r penblwydd arbennig. Gyda’r achlysur mawr yn cael ei ohirio flwyddyn tan fis Mai 2022, bydd Cyngor Dinas Bangor a Ffrindiau Pier Garth Bangor yn dathlu’r pen-blwydd mewn ffyrdd gwahanol dros y misoedd sy’n dod. Bydd cyfres o gyfweliadau, trafodaethau a chyflwyniadau ar hanes y pier a’r ardal yn cael eu cyhoeddi ar-lein, a bydd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau llai yn cael eu cynnal ar y pier yn ddiweddarach eleni, yn amodol ar reoliadau Covid-19. Cyhoeddir Rhaglen Ddigidol heddiw hefyd i gydnabod y dyddiad pwysig.

PIER GARTH BANGOR YN DATHLU EI BENBLWYDD YN 125 OED


Pier Garth Bangor: Penblwydd yn 125 oed Rhaglen Ddigidol

bangorpier.org/cartref.html

Maer newydd i Fangor 2021/22

Mai 11, 2021

Cyfarfod Flynyddol 10fed Mai: Pleidleisiodd y Cyngor dros y Cyng Owen Hurcum fel Maer newydd Bangor ar gyfer 2021/22. Pleidleisiodd y Cyngor hefyd am y Cyng Gwynant Roberts fel y Dirprwy Faer newydd. Diolchodd y Cyngor y cyn Faer Cyng John Wyn Williams am ei waith caled ac arweiniad dros y dwy flynedd diwethaf, a chroesawodd y Cyng Hurcum i’w swyddogaeth newydd.

Maer newydd i Fangor 2021/22

Diwrnod o Fyfyrio Covid-19: Pier Garth Bangor

23 Mawrth 2021
Caiff Pier Garth Bangor ei oleuo’n felyn heno, 23ain Mawrth, i helpu cofio am bawb sydd wedi colli eu bywydau i Covid-19. Fe fydd adeiladau a llefydd enwog ledled Cymru yn cael eu oleuo hefyd, gan nodi blwyddyn ers y cyfnod clo Covid-19 cyntaf. Am 8yh, gofynnir i bobl sefyll ar eu stepen drws gyda ffonau, canhwyllau a ffaglennau er mwyn ffurfio ‘golau i gofio’. Atgoffir unrhyw ymwelwyr i Bier Garth Bangor i ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.


Codi cyfyngiadau Covid19 yn raddol

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 12fed Mawrth, dywedodd Maer Bangor, y Cyng John Wyn Williams:

“Croesawn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru fod Cymru yn cymryd y camau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau. Deallwn yr angen am broses raddol a phwyllog yn gyffredinol er mwyn cadw pobl yn saff a rheoli ymlediad coronafeirws. Ond mynegwn siom na fydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol medru ail-agor tan 22ain Mawrth. A ni fydd busnesau eraill yn medru ail-agor o gwbl yn mis Mawrth. Mae’r flwyddyn diwethaf wedi bod yn anodd dros ben i fusnesau Bangor, ac mae’r pandemig wedi creu ansicrwydd mawr am eu dyfodol. Gofynnwn fod y busnesau yma yn medru ail-agor cyn gynted a phosib, gan eu bod yn medru croesawu cwsmeriaid tra’n cydymffurfio a’r rheolau Covid19”


Pleidlais Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor

Wrth ymateb i ganlyniad y pleidlais ar 12fed Mawrth, dywedodd Maer Bangor, y Cyng John Wyn Williams:

“Croesawn y newyddion fod Pleidlais Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu buddsoddiad o dros £740,000 ym Mangor dros y pum mlynedd nesaf. Mi fydd Cyngor Dinas Bangor yn gweithio’n agos gyda Bangor yn Gyntaf a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod cyfnod nesaf yr AGB o fudd i breswylwr a busnesau Bangor, a bod yr AGB yn helpu datblygiad y ddinas fel lle da i fyw, gweithio a buddsoddi ynddi”

Prosiect Coed Ceirios Sakura

Ar 2il Mawrth 2021 derbyniodd Dinas Bangor Coed Ceirios Sakura i ddathlu y cyfeillgarwch parhaus rhwng Cymru a Siapan. Cafodd mil o Goed Ceirios ei roi i barciau cyhoeddus, ysgolion a dinasoedd ledled Cymru fel anrheg, gyda Phrif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS a’r Llysgennad Yasumasa Nagamine, Llysgennad Siapan i’r DU, yn plannu’r goeden gyntaf yn mis Rhagfyr 2020. Fe fydd y prosiect yn etifeddiaeth barhaus o Thymor Diwylliant Siapan-DU 2019-2020 ac yn bosib oherwydd cyfraniadau busnesau Siapaneaidd.

Ym Bangor, mae’r mwyafrif o’r Goed Ceirios wedi’u lleoli yng nghaeau Ashley Jones, gyda rhai eraill ledled y Ddinas, gan gynnwys tiroedd Prifysgol Bangor a Chastell Penrhyn. Dywedodd Maer Bangor Y Cyng John Wyn Williams “Ar ran preswylwyr Bangor, mae Cyngor Dinas Bangor yn mynegi ei diolchgarwch i Siapan am ei charedigrwydd ac anrheg i’r Ddinas. Croesawn y Coed Ceirios Sakura a mi fydd rhain yn ased i caeau Ashley Jones ac mewn lleoliadau eraill, rhywbeth y gall cenedlaethau presennol a’r dyfodol mwynhau a gwerthfawrogi”.

Prosiect Coed Ceirios Sakura

Chwith: Y Cyfarwyddwr Dinesig Iwan Williams yn plannu coeden yng nghaeau Ashley Jones. Dde: Maer Bangor Y Cyng John Wyn Williams


Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2021

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’i phartneriaid unwaith eto i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni. Mae rhagor o wybodaeth ar y rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau (24ain Chwefror – 5ed Mawrth) i’w weld yma: Gŵyl Dewi Bangor - Home | Facebook


Diweddariad y Pier (Chwefror 2021)

Does dim gwaith strwythurol ar raddfa fawr yn digwydd ar hyn o bryd. Mae pedwar cam o’r prosiect adnewyddu wedi’u gwblhau, gyda dau i fynd. Y blaenoriaeth dros y misoedd nesaf fydd paentio rhannau o’r Pier, trin rhai o’r planciau a gweithio ar y ‘Linkspan’ ar ddiwedd y Pier. Fe fydd y gwaith yma yn dechrau yn hwyrach eleni.

Mae Cyngor y Dinas yn edrych ar gyfleoedd cyllid gyda phartneriaid er mwyn gwella’r Pier a sicrhau ei fod yn gynaliadwy wrth symud ymlaen. Mae penblwydd y Pier yn 125 mlwydd oed yn digwydd ar 14eg Mai 2021. O ganlyniad i’r pandemig Covid-19 presennol, ni fydd digwyddiad ar raddfa fawr yn bosib ond mae’r Cyngor yn edrych ar trefniadau amgen fodd bynnag, gyda rhagor o fanylion i’w gyhoeddi yn agosach i’r dyddiad.


Cyfarwyddwr Dinesig Cyngor Dinas Bangor

Dymuna’r Maer, y Cynghorydd John Wyn Williams, gyhoeddi bod Mr Iwan Marc Williams wedi ei benodi i’r swydd o Gyfarwyddwr Dinesig Cyngor Dinas Bangor ac y bydd yn cychwyn ar ei ddyletswyddau ar y 1af Ionawr 2021.

Mae Mr Williams yn enedigol o Llandysul ac wedi byw ym Mangor ers dros flwyddyn efo’i wraig a dwy ferch fach. Mae ganddo brofiad o weithio yn y sector gyhoeddus yng Nghymru a hefyd ar gyfandir Ewrop.

Dymunir pob llwyddiant iddo yn y swydd newydd yma a hefyd hoffwn ddiolch i’r Dr Martin Hanks sydd wedi cyflenwi swydd Clerc y Ddinas dros y cyfnod diweddar.

Sul y Cofio 8 Tachwedd 2020

Gosododd y Maer a’r Dirprwy Faer dorchau ar y Gofeb Ryfel ar ran Cyngor y Ddinas a phobl Bangor, mewn seremoni fechan na chafodd ei hysbysebu, ar Sul y Cofio.

Pier Bangor

Diweddariad feirws Covid 19 Hydref 2020

Daw’r cyfyngiadau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i leihau lledaeniad feirws Covid 19 (Coronafeirws) i rym ddydd Gwener 23 Hydref 2020. Er mwyn annog pobl i fwynhau’r awyr agored a chael lle i ymarfer, dymuna Cyngor Dinas Bangor gadarnhau y bydd y Pier, fel y parciau a mannau gwyrdd eraill, yn aros ar agor. Gofynnir i’r rhai sy’n eu defnyddio gadw pellter cymdeithasol.


Cyngor Dinas Bangor - Cyfarwyddwr Dinesig

Cyflog gradd LC3, Scp. 33 – Scp. 36
(£36,922 -£39,880)

Mae hon yn swydd gyffrous ac amrywiol sy’n cynnig cyfle i berson brwdfrydig ac egniol i chwarae rhan arweiniol yn natblygiad llewyrchus Dinas Bangor. Bwriada y Cyngor gyflogi person sydd yn gyfathrebwr penigamp ac yn gallu cydweithio gyda aelodau etholedig ac amrywiol bartneriaid o fewn y Ddinas gan ddangos profiad llwyddiannus o arwain a chyflawni prosiectau.

Os yw yr uchod yn apelio yna cysylltwch a swyddfa Cyngor Dinas Bangor am becyn cais a swydd ddisgrifiad johnwynnjones@hotmail.co.uk neu bangorcitycouncil.com

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd, ddydd Mercher 21 Hydref 2020;

Gwybodaeth Recriwtio


VE Day: 08/05/2020

VE Day

Mewn gwasanaeth bach a diogel, ymunodd y Maer, Y Cynghorydd John Wyn Williams, a chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a Heddlu Gogledd Cymru mewn gweithred o choffau y bore yma I nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VE. Hoffai Cyngor y Ddinas adleisio’r neges gan Llywodraeth Cymru ac annog parb I ddathlu’r diwrnod hwn one I wneud yn ddiogel ac o fewn y canllawiau pellhau cymdeithasol.

Am syniadau ar sut I nodi’r diwrnod wrth aros gartref, cliciwch yma ve-vjday75.gov.uk/get-involved

Wrth i’r genedl ddod at ei gilydd dyma rai amseroedd arwyddocaol:

2.45 yp: Bydd darnau o gyhoeddiad Winston Churchill bod y rhyfel drososs yn cael eu trosglwyddo ar y teledu.

2.55 yp: Gwahoddir chwaraewyr Bugle, trwped a chornet I chwarae’r ‘Last Post’

3.00 yh: Gwahoddir pawb I godi gwydraid mewn tost cenedlaethol i’r rhai a roddynt gymaint

9.00 yhc: Bydd neges gan Frenhines a Vera Lynn yn arwain y genedl unwaith eto wrth canu ‘We’ll Meet Again


Diweddariad feirws Covid 19 Gwanwyn 2020

Marchnad Stryd dydd Gwener

Oherwydd bod feirws Covid 19 (Coronafeirws) yn dal i ledaenu ac er diogelwch pobl Bangor, penderfynwyd atal marchnad dydd Gwener am y tro, am gyfnod amhenodol.


Pier Bangor

O ganlyniad i ledaeniad cynyddol feirws Covid 19 (Coronafeirws) a chyngor y Llywodraeth am ymbellhau cymdeithasol, mae Cyngor Dinas Bangor wedi gwneud y penderfyniad anodd heddiw i gau Pier Bangor i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol.

Mae Cyngor y Ddinas yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Cyflwyno Siec

Cheque Presentation

Daeth llu o ffrindiau a theulu ynghyd i ddathlu ei ben-blwydd yng Nghlwb Rygbi Bangor gyda’r nod o gasglu arian i Gymdeithas Alzheimer’s.

Mae Cymdeithas Azheimer’s yn agos iawn at galon John a gyda balchder mawr llwyddodd John i gasglu dros £2500.

Bydd yr arian a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio’n lleol yng Ngwynedd a Môn ar gyfer gwasanaeth ‘Ochr yn Ochr’ y Gymdeithas.

Gwasanaeth sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr yw Ochr yn Ochr sy’n helpu pobl sy’n byw gyda dementia i barhau i fod yn weithgar yn eu cymunedau. Mae’r gwasanaeth yn eu helpu i fyw bywydau llawn, ac yn lleihau unigrwydd.

Cyflwynwyd siec yn ddiweddar gan y Cynghorydd John Wyn Williams i gynrychiolydd lleol o Gymdeithas Alzheimer’s.


Marchnad Nadolig Bangor

Trodd niferoedd mawr o ardal Bangor allan ddydd Sul (15 Rhagfyr) i gefnogi’r hyn oedd unwaith eto yn Farchnad Nadolig lwyddiannus iawn.

Cafodd y Farchnad ei chynnal a’i threfnu gan Gyngor Dinas Bangor, Grŵp Cymunedol Pobl Bangor, a’i chefnogi gan Ysgol Ddawnsio Gwynedd.

Croesawodd Canolfan Deiniol nifer o grefftwyr i arddangos eu nwyddau yn cynnwys amrywiaeth fawr o ddiodydd Nadoligaidd, ac roedd stondinau’r farchnad a gwerthwyr bwyd eraill yn ymestyn ar hyd y Stryd Fawr. At hynny, cafwyd pob math o gerddoriaeth ac adloniant yn Nhan-y-Fynwent, a oedd yn cynnwys perfformiadau gan ‘Elsa’, Ysgol Ddawnsio Gwynedd, DJ lleol, a sŵn y drwm i bawb gan CAPOEIRA MOCAMBO.

Ymhlith yr atyniadau eraill, cafwyd ymweliad gan geirw byw, ac roedd Santa Clos yn ei groto, diolch i siop Debenhams.

Gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, roedd ceffylau bach i blant mewn maes parcio ynghanol y Ddinas.

Hoffai Cyngor Dinas Bangor ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran yn yr achlysur, yn enwedig Arolygydd y Farchnad, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd.

Bangor Christmas Market

Fireworks


Electors Rights 2019


Elsa’r Dylluan Gorniog

Elsa the Eagle Owl

Elsa the Eagle Owl

Arolwg o’r trefniadau etholiadol ar gyfer - Cyngor Sir Gwynedd

Cyflwynwyd Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn Ffiniau ar gyfer Cyngor Sir Gwynedd i Weinidogion Cymru ar 6 Tachwedd 2018. Mae cyfnod o chwe wythnos pan na all Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn. Efallai yr hoffech achub ar y cyfle hwn i ysgrifennu atynt â’ch safbwyntiau ar yr Argymhellion Terfynol. Daw’r cyfnod chwe wythnos i ben ar 18 Rhagfyr 2018.

Mae’r Adroddiad Argymhellion Terfynol yn cynnwys holl argymhellion y Comisiwn ar gyfer Sir Gwynedd. Lle mae wedi gwneud newidiadau i’r trefniadau presennol, mae disgrifiad o’r newid, y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, y rhesymau am unrhyw newid a map o’r cynigion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Erbyn hyn, mae’r Comisiwn wedi cyflawni ei ddyletswyddau, a Llywodraeth Cymru a’i Gweinidogion fydd yn penderfynu sut i symud ymlaen. Fel arfer, byddant yn gwneud Gorchymyn.

Hoffai’r Comisiwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i wneud cynrychiolaethau, yn ogystal â’r Cyngor Sir am ei gymorth wrth gynnal ar arolwg.

Mae’r adroddiadau, mapiau a gwybodaeth ategol arall ar gyfer yr arolwg i’w gweld isod.

http://ldbc.gov.wales/reviews/electoralreviews/currreviews/gwynedd-final/?skip=1&lang=cy


Cyngor Dinas Bangor yn helpu i gadw toiledau cyhoeddus ar agor

Mae Cyngor Dinas Bangor wedi mynd yn ddwfn i’w bocedi i ffurfio partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i gadw’r tri cyfleuster cyhoeddus sy’n eiddo i Wynedd ar agor yn y Ddinas. Ar gyfer 2018/19 bydd Cyngor y Ddinas yn cyfrannu £10,000 i sicrhau fod y toiledau’n aros ar agor wrth i doriadau Gwynedd frathu’n ddwfn i’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn y Ddinas. O 2018 bydd y Cyngor yn archwilio ffyrdd eraill o gynnal y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus. Mae’r tri chyfleuster wedi’u lleoli yng Nglanrafon, Tan-y-fynwent a Ffordd Garth. Nid yw toiled cyhoeddus Cyngor y Ddinas ar ben draw’r Pier yn cael ei effeithio gan mai’r Ddinas sy’n cynnal hwn yn barod.

Roedd Cynghorwyr y Ddinas yn teimlo’i bod yn hanfodol ar yr adeg yma o doriadau fod yn rhaid cynnal y ddarpariaeth doiledau sydd o dan fygythiad, ac ystyriwyd eu cymryd drosodd yn llwyr. Fodd bynnag, hysbysodd Clerc y Dref y Cyngor nad oedd eu cymryd drosodd yn opsiwn ar hyn o bryd ond gallai fod yn ymarferol rywdro yn y dyfodol.


Hanes yr Iddewon ym Mangor

Cyflwyniad byr gan Dr. Nathan Abrams, Prifysgol Bangor a Gareth Roberts o ‘Gynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen’ am 2.10yp. Dewch i rannu eich atgofion am storfeydd Wartski a Pollecoff ac i ddarganfod hanesion am yr Iddewon ym Mangor o’r Oesoedd Canol i’r Ail Ryfel Byd.

Cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd yr Arddangosfa yn y Galeri tan Ebrill 26.

Mae’r digwyddiad AM DDIM.

Hanes yr Iddewon ym Mangor

Adnewyddu Croes Cofeb Ryfel Bangor

Yn ddiweddar cafodd plinthiau, grisiau, slabiau a llechi enwau Croes y Gofeb Ryfel eu hatgyweirio a’u hadnewyddu gan Gyngor y Ddinas fel rhan o Gofio Canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Adnewyddu Croes Cofeb Ryfel Bangor

Llwyddwyd i wneud y gwaith hwn yn dilyn ceisiadau grant llwyddiannus i CADW a’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel yn ogystal â chyfraniad gan Gyngor y Ddinas. Roedd y gwaith yn cynnwys glanhau, trwsio’r garreg, ategu’r resin, ailbwyntio’r mortar, glanhau’r pres ac atgyweirio’r parapet, y garreg a’r gwaith bloc. Roedd hefyd yn golygu adnewyddu’r slabiau llechi ac ailbeintio’r llythrennu.

Dywedodd France Moreton, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel “Mae cofebion rhyfel yn gyswllt gweladwy â’n gorffennol ni i gyd, yn creu dolen rhwng y rhai a syrthiodd a heddiw. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau fod pob un o’n cofebion rhyfel yn cael eu cadw yn y cyflwr gorau posibl am eu hoed ac mae’n bleser gan yr elusen gefnogi’r prosiect hwn. Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle gwych i gymunedau ar hyd a lled y wlad ddiogelu a gwarchod eu cofebion rhyfel. Os oes unrhyw un yn gwybod am gofebion eraill sydd angen sylw, mae croeso iddynt gysylltu â ni.”

Meddai Maer Bangor, y Cynghorydd John Wynn Jones “Bydd y gwaith atgyweirio pwysig hwn yn gwella Canol y Ddinas ac yn golygu fod gennym gofeb ryfel y gallwn ymfalchïo ynddi. Yma rhoddir parch a choffâd i’r rhai a syrthiodd, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr felly ei bod yn cael ei chadw mewn cyflwr da a’i pharchu.”

Dywedodd Clerc y Dref, Ian Jones “rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, CADW a’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel am eu cymorth a’u harweiniad yn talu am y gwaith hwn oherwydd roedd y Gofeb wedi dioddef cryn esgeulustod. Gobeithio y bydd y gwaith hwn yn cadw’r groes a’r gofgolofn mewn cyflwr da am flynyddoedd i ddod.”

Hanes y llong anffodus HMS Conway i’w weld mewn arddangosfa ym Mhorthaethwy

HMS Conway

Mae arddangosfa sy’n dweud hanes un o longau hyfforddi’r llynges a drawodd y creigiau ar Afon Menai i’w gweld ym Mhorthaethwy.

Mae Arddangosfa HMS Conway yng Nghanolfan Thomas Telford Treftadaeth Menai, o rŵan tan ddiwedd mis Mehefin.

Mae Treftadaeth Menai, yr elusen sy’n rhedeg Arddangosfa’r Pontydd ym Mhorthaethwy, yn coffau 65ain pen-blwydd yr HMS Conway yn mynd i’r lan. Roedd y llong yn cael ei symud i Benbedw i’w hatgyweirio, ond aeth yn erbyn y graig pan gollwyd rheolaeth ar y tynfadau ger Pont Menai. Arhosodd yno tan 1956, pan aeth ar dân a llosgi hyd at lefel y dŵr. Mae’r arddangosfa ar agor dyddiau Mercher ac Iau, 10am-5pm, y ffi mynediad yw £3, plant o dan 16 oed am ddim.

Dydd Sadwrn, 2 Mehefin, rhoddir darlith ar yr HMS Conway gan Alfie Windsor, cyn gadet ar HMS Conway, am 2pm, yng Nghanolfan Thomas Telford.


Gwahoddiad i gyfarfod ymgynghori ar gyfraith ewyllysiau

Yn ddiweddar cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith bapur ymgynghori, Making a Will. Mae cyfraith ewyllysiau'n effeithio arnom i gyd ac mae'r Comisiwn yn awyddus i glywed barn ar draws cymdeithas - gan aelodau'r cyhoedd, meddygon, gweithwyr gofal a grwpiau dinesig, yn ogystal â chan aelodau o gymuned y gyfraith.

Y materion canolog a ystyrir yn y papur ymgynghori yw:
Cymhwyster ewyllysiol (y gallu i wneud ewyllys)
Y rheolau ynghylch bod yn dyst i ewyllysiau a'u llofnodi
Amddiffyn ewyllyswyr hawdd eu niweidio
Ewyllysiau electronig

Fe'ch gwahoddir i gyfarfod ymgynghori cyhoeddus gan Gomisiwn y Gyfraith, a gynhelir gan Brifysgol Bangor.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Llun, 9 Hydref 2017
Cledwyn 3, Prif Adeilad y Brifysgol, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG.
Gofynnir i chi gyrraedd am 5pm ar gyfer 5:30pm.

Bydd y cyfarfod yn para awr a hanner a bydd cyfieithiad Cymraeg ar gael. Ni chodir tâl am ddod iddo.

Os hoffech ddod, a fyddech cystal ag ymateb drwy e-bost erbyn 2 Hydref fan bellaf at Damien Bruneau yn: damien.bruneau@lawcommission.gsi.gov.uk.