164/166 Stryd Fawr: Diweddariad Cyngor Gwynedd 2021

Gorffennaf 2021

Amlinellaf y camau yn ystod yr wythnos nesaf fydd yn arwain at ail-agor y rhan yma o’r Stryd Fawr am 9 y bore ddydd Mercher 7fed Orffennaf fel a ganlyn:

  • Ail wynebu’r gyffordd rhwng y Stryd Fawr a Lon Bopty - Dydd Llun 28 i Ddydd Mercher 30ain Fehefin [wedi ei gwblhau].
  • Ail wynebu a thacluso’r ffordd lle sefydlwyd y craen Ddydd Iau 1af ac 2ail Orffennaf
  • Datgysylltu sgaffald ac ail godi sgaffald newydd ar y llwybr troed 5ed Orffennaf
  • Twtio’r safle a glanhau’r ffordd a phalmant 6ed Orffennaf
  • Tynnu’n arwyddion i lawr a sicrhau diogelwch ac ail agor y ffordd am 9 y bore.– Ddydd Mercher 7fed Orffennaf

Mai 2021
Yr wyf yn falch iawn o gadarnhau bod y gwaith dymchwel ar 164 a 166 Stryd Fawr, Bangor yn mynd yn dda er gwaethaf y tywydd gwlyb a gwyntog diweddar.

Yn ystod mis Mehefin fe fydd yr agweddau canlynol yn cael eu cwblhau sef:

  • W/C 31 Fai – cwblhau dymchwel 164/166 Stryd Fawr.
  • W/C 7fed Fehefin – Tyllu allan y peiliau yn y ffordd a chlytio rhannau o’r ffordd fel mae angen.
  • W/C 14 Fehefin – Clirio’r safle a sicrhau bod popeth o safon (Cwblhau cam 2 o’r contract Dymchwel 2).
  • W/C 28 Fehefin - Ail wynebu darnau o’r ffordd a chyffordd am Lon Bopty
  • Edrych i ail agor yn gyfan gwbl ar benwythnos 3ydd a 4ydd Orffennaf.

Mawrth 2021

Annwyl Oll
Yr wyf yn falch iawn o allu adrodd bod y gwaith i sefydlu sylfaeni ar gyfer lleoli craen i ddymchwel 164 a 166 Stryd Fawr yn parhau i gadw i’r amserlen, er gwaethaf rhai heriau technegol. Disgwylir i’r gwaith yma gael ei gwblhau erbyn dydd Gwener 9fed Ebrill 2021.

Fe fydd gwedd 2 wedyn yn cychwyn ddydd Llun 12 Ebrill 2021, ac yr wyf ar ddeall y disgwylir i’r wedd yma gymryd tua 7 wythnos i’w gwblhau. Felly'r cwestiwn mawr yw, pryd fydd y ffordd yn ail agor, ac o’r amserlen bresennol gallaf adrodd mai diwedd Mai/ dechrau Mehefin sy’n rhesymol i ddisgwyl.

Mae agwedd ychwanegol carwn eich barn arno. Mae ADRA yn datblygu tai dros y ffordd i Varsity [137 Stryd Fawr], ac angen cau'r ffordd am wythnos i ddelio gyda phibell carthffosiaeth. Fe fydd angen cau rhwng 137 Stryd Fawr hyd at Lon Bopty fydd wrth gwrs yn cael effaith ar y sawl angen mynediad i Lon Bopty a Chaellepa. Mae posib sicrhau mynediad heibio’r hen Ysbyty Minffordd ac Hendrewen, ac fe fyddwn yn argymell goleuadau traffig yn y rhannau cul.

Fel y gwelaf mae dau opsiwn sef:

  1. Delio gyda’r aflonyddwch o gau’r ffordd mewn 2 leoliad, ac agor ar ôl cwblhau’r gwaith 164 a 166 Stryd Fawr a bod cyfnod sefydlog wedi hynny.
  2. Disgwyl i’r gwaith 164 a 166 Stryd Fawr gael ei gwblhau a’r ffordd i agor yn y lleoliad hwnnw cyn cau’r rhan arall fel bod mynediad eithaf rhwydd i drigolion Lôn Bopty a Chaellepa.

Cadarnhaf ein bod mewn trafodaethau gydag ADRA, ond eu bod yn awyddus bwrw ymlaen gyda’i gwaith er mwyn codi tai angenrheidiol i drigolion sydd wirioneddol eu hangen. Fe fyddwn wrth gwrs yn annog trafodaeth gyda thrigolion gyda’r ddau opsiwn.


Annwyl oll
Yn gyntaf oll carwn ddiolch i chwi am eich amynedd gyda’r sefyllfa yma. Fe ddaru mi addo i chwi yr wythnos diwethaf ddod yn ôl atoch yr wythnos hon gyda mwy o bendantrwydd ynglŷn â bwrw ymlaen gyda gwaith ar 164 a 166 Stryd Fawr, Bangor fel y gallwn ail agor y Stryd i draffig.

Yr wyf yn falch iawn o gadarnhau bod perchnogion y 2 eiddo wedi cytuno i geisio cychwyn ar y gwaith mor fuan ag sy’n bosib. Nid yw contractau gyda’r sawl sydd am fod yn ymwneud a’r gwaith ffisegol wedi eu harwyddo hyd yma, ond maent yn edrych i ddechrau’r gwaith ar y safle yn ystod yr wythnos 1af Chwefror 2021. Yr wyf yn falch iawn felly na fydd angen i ni fel Cyngor barhau gydag achos cyfreithiol i gymryd rheolaeth o’r sefyllfa.

Bwriedir cwblhau’r gwaith mewn 2 ran. Fe fydd y rhan cyntaf yn ymwneud a chryfhau’r ffordd ar gyfer lleoli craen i alluogi i’r gwaith dymchwel fwrw ymlaen. Rhagwelir i’r gwaith o gryfhau’r ffordd gymryd oddeutu 7 wythnos. Unwaith y bydd craen wedi ei lleoli ar y safle yna fe fydd yr ail ran, sef dymchwel yr adeiladau yn gallu bwrw ymlaen, a rhagwelir i’r gwaith hyn gymryd oddeutu 5 wythnos. Felly, i fod yn realistig am y sefyllfa rhagwelir y bydd y Stryd Fawr yn agored mis Mai 2021. Fe fyddwn yn pwyso am ddiweddariadau a fwy o bendantrwydd ar yr amserlen wrth i’r gwaith fwrw ymlaen.

Yr ydym yn cydnabod yn hollol bod y sefyllfa yma wedi bodoli am amser hir, ond gallaf eich sicrhau bod cymhlethdodau technegol a chyfreithiol wedi rhwystro cynnydd, ond yr ydym yn falch iawn bod sefyllfa nawr wedi ei gyrraedd lle yr ydym am weld gwaith yn symud ymlaen ar y safle.

Fe wnaf sicrhau bod diweddariadau o ran y gwaith yn cael eu rhannu yn rheolaidd gyda chwi.

Diolch yn fawr iawn,

Difrod tân i 164 ac 166 Stryd Fawr, Bangor
Yn dilyn y tân yn Noodle One ar y Stryd Fawr, a wnaeth hefyd ddifrodi'r adeilad gerllaw, Morgan, rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddymchwel y ddau eiddo yn sgil maint y difrod a sefydlogrwydd yr adeiladau wedi'r tân.... darllen mwy

Gwaith Dymchwel yn 164 a 166 Stryd Fawr Bangor

Ers yr ymweliad â busnesau yn ardal Pendref, Bangor ym mis Mawrth, mae'r amgylchiadau presennol mewn perthynas â Covid19 wedi effeithio ar fusnesau ledled y Sir....Darllen mwy

Diweddariad - 164-166 Stryd Fawr

  • Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau diogelwch safle 164-166 Stryd Fawr, Bangor i’r cyhoedd.
  • Mae’r Cyngor Dinas yn cysylltu’n ddyddiol â’r busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y tân.
  • Mae Cyngor Gwynedd a’r Cyngor Dinas yn hyrwyddo’r neges fod y Stryd a’r busnesau ar agor fel arfer.
  • Mae’r Cyngor Dinas wedi trefnu argraffu a gosod baner, gyda dyluniad gan un o berchnogion busnes y Stryd Fawr.
  • Mae’r Cyngor Dinas a’r Cynghorydd Lleol wedi bod yn trafod anghenion a thrafferthion y busnesau lleol hynny a effeithwyd gan y tân.
  • Mae’r Ardal Gwella Busnes, Cyngor Dinas a Chyngor Gwynedd yn paratoi bwletin rheolaidd i’r gymuned i’w diweddaru ar y sefyllfa bresennol.
  • Mae’r Cyngor Dinas yn helpu i gydlynu casglu sbwriel gyda Chyngor Gwynedd.
  • Mae cyfarfodydd rheolaidd yn digwydd rhwng y Cyngor Dinas, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

Diweddariad Gwaith Ffisegol

  • Mae Cyngor Gwynedd wedi paratoi rhaglen waith cynhwysfawr i ymateb i’r difrod strwythyrol i’r adeiladau a achoswyd gan y tan.
  • Mae Cyngor Gwynedd wedi trefnu bod sgaffald strwythyrol yn cael ei osod er mwyn diolgelu’r safle, cyn bod yr adeiladau yn cael eu dymchwel.
  • Yn ogystal â hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi trefnu gwaith gan Beiriannwr Strwythyrol.
  • Mae gwaith peirianyddol ar waith i sicrhau bod y strwythur digon cryf i leoli craen.
  • Mae trefniadau yn digwydd i ddadgysylltu gwasanaethau nwy, dwr a thrydan.
  • Mae arolwg radar daer wedi cymryd lle.

Gwaith Ffisegol: Camau Nesaf

  • Bydd angen dymchwel y ddau adeilad.
  • Bydd craen yn cael ei leoli yn agos i’r safle i gynorthwyo’r gwaith dymchwel.
  • Unwaith bydd y gwaith dymchwel wedi ei gwblhau, bydd angen sicrhau diogelwch y safle.
  • Wedi i hyn ddigwydd, bydd gwaith i ddadosod y sgaffald yn digwydd.
  • Bydd y ffordd wedyn yn cael ei ail agor.
  • Bydd y droedffordd ar agor a, tra bydd y gwaith uchod yn digwydd, mi fydd y Cyngor Dinas a’r
  • Gadeirlan yn helpu i hebrwng pobl efo anhawsterau drwodd.

Cymorth Pellach

  • Bydd Swyddogion o Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, yn ymweld â busnesau Pendref wythnos yma, ar y cyd efo Swyddogion Cyngor Dinas a AGB Bangor.
  • Mae AGB Bangor yn rhannu pryderon yr holl fusnesau sydd wedi eu heffeithio ac yn deall yr effaith. Mae gwaith yn digwydd i gael arwyddion clir a gweledol i’r cyhoedd, i ddangos bod y busnesau tu hwnt i’r sgaffald ar agor fel arfer.
  • Bydd AGB Bangor yma i ddarparu cefnogaeth, ac yn parhau i hyrwyddo a marchnata’r busnesau effeithwyd arnynt.
  • Mae Cyngor Dinas Bangor yn gweithio yn agos efo busnesau i ddatrys unrhyw broblemau o ddydd i ddydd ac yn hapus i helpu a chefnogi busnesau mewn unrhyw ffordd.

Diweddariad Cyngor Dinas

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud gwaith sylweddol wrth drefnu i sgaffald strwythurol gael ei godi i gefnogi 166 a 164 Stryd Fawr Bangor yn dilyn y tân ar 17eg Rhagfyr 2019. Oherwydd maint y sgaffaldiau sy'n ofynnol, nid yw'r ffordd ei hun yng nghyffiniau'r adeiladau yn anhyboen, ond mae'r droedffordd ar yr ochr arall yn parhau ar agor.

Fe wnaethom weithredu'n gyflym wrth sefydlu trefniant rheoli traffig diogel ac ymarferol oherwydd y cau annisgwyl. Ers sefydlu'r system draffig dros dro rydym wedi bod yn monitro sut mae wedi bod yn gweithio ac yn cysylltu â busnesau a chyflenwyr ac wedi gwneud addasiadau yn unol â hynny.

Fel rhan o’r grŵp ‘Delwedd Bangor’, fe wnaethon ni gwrdd ar noson 20fed Ionawr lle trafodwyd y trefniadau traffig a rhannwyd llawer o syniadau. Cytunwyd bod angen i unrhyw system draffig roi diogelwch y cyhoedd yn gyntaf ac na allwn weithredu syniadau lle credwn y byddai diogelwch defnyddwyr y ffordd yn cael ei gyfaddawdu. Fodd bynnag, cytunwyd hefyd y dylid anfon unrhyw syniadau ynglŷn â gwella'r trefniadau traffig dros dro at y Cyngor drwy’r manylion cyswllt a ddarperir.

Rydym yn gweithio'n agos gyda pherchnogion yr adeiladau a'u hyswirwyr er mwyn ailagor y rhan bwysig hon o'r Stryd Fawr cyn gynted â phosibl.


Diweddariad Cyngor Dinas

Mae Emlyn Williams, Swyddog Prosiect y Cyngor Dinas, yn gweithio'n agos gyda'r busnesau i geisio datrys unrhyw broblemau sydd yn codi o ddydd i ddydd. Mae o hefyd mewn cysylltiad dyddiol efo John Evans y peiriannydd ar faterion ynglŷn â'r adeilad.

Mae’r Cyngor Dinas wedi gosod dwy faner, un ar gylchdro Asda a'r llall ar y scaffold tu allan i 164 Stryd Fawr i hysbysebu bod y stryd dal ar agor i fusnes.

Mae John Wyn Williams, Y Maer, yn cysylltu yn rheolaidd gyda Chyngor Gwynedd a'r Aelod Seneddol er mwyn cadw pawb yn y lŵp ac yn dwyn sylw i unrhyw faterion, syniadau neu ddatrysiadau ynglŷn â'r rhan bwysig yma o'r stryd. Hefyd mae llythyr wedi ei anfon yn cefnogi cais y busnesau i gael rhyddhad dros dro o drethi busnes nes bod y stryd wedi cael ei ail- hagor.

Mae'r misoedd nesa am fod yn heriol iawn ac mae’r Cyngor Dinas yn barod i gydweithio, cefnogi a helpu busnesau mewn unrhyw ffordd bosib.


Diweddariad AGB Bangor

Mae AGB Bangor yma i ddarparu cefnogaeth i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gau'r ffordd ger 164 Stryd Fawr Bangor.

Trefnwyd digwyddiadau i ddod â busnesau ar y Stryd Fawr at ei gilydd, fel y ‘Cracker Pull’ ddiweddar.

Mae Pamela Poynton, Cadeirydd AGB, mewn cysylltiad rheolaidd â busnesau Pendref, yn ogystal â'r Awdurdod Lleol, Cyngor y Ddinas ac yr Aelod Seneddol.

Mae AGB Bangor wedi tynnu sylw at y sefyllfa trwy amrywiol sianeli cyfryngau, gan gynnwys y BBC, Daily Post a'r Bangor Aye a byddant yn gweithio'n barhaus i godi ymwybyddiaeth bod busnesau ar agor fel arfer ac yn helpu mewn unrhyw ffordd bosibl.

Manylion Cyswllt

Os hoffech drafod ynrhyw bryderon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynnau, gallwch gysylltu a ni drwy’r manylion isod:

Ffôn: 01286 679 545
Ebost: adfywio@gwynedd.llyw.cymru

Adran Economi a Chymuned
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH