Mae prosesu data personol yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â data personol sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â data a hawliau personol megis y Ddeddf Hawliau Dynol. Bydd y ddeddf diogelu data yn newid ar 25 Mai 2018
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro’ch hawliau o dan y ddeddf newydd.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu’ch preifatrwydd.
Mae’r Polisi hwn yn esbonio pryd a pham y byddwn yn casglu data personol, sut rydym yn ei ddefnyddio, yr amodau lle y gallwn ei ddatgelu i eraill a pha ddewisiadau sydd gennych pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.
Gallwn newid y Polisi hwn o dro i dro felly cymerwch olwg ar y dudalen bob hyn a hyn i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau. Drwy ddefnyddio’n gwasanaethau, rydych yn cytuno i fod yn rhwym i’r Polisi hwn.
Dylai unrhyw gwestiynau am y Polisi hwn a’n harferion preifatrwydd gael eu hanfon drwy e-bost i Glerc y Dref - gellir cael y manylion ar ein tudalen Cysylltu.
Pwy ydym ni?
Rydym yn Gyngor Dinas, sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i’ch cymuned.
Sut ydyn ni’n casglu data gennych chi?
Rydym yn cael gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch yn cysylltu â ni i holi am ein gwasanaethau a phan fyddwch yn defnyddio’n gwefan.
Pa wybodaeth ydyn ni’n casglu a sut mae’n cael ei defnyddio?
Rydym yn casglu gwybodaeth i ganiatáu i ni gyflawni’n rhwymedigaethau i’n hetholwyr, ac i ymateb i ymholiadau busnes.
Rheoli’ch gwybodaeth
Mae gennych rai hawliau sy’n ymwneud â’r wybodaeth a ddaliwn amdanoch, fel ag y’u diffiniwyd o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Os ydych yn dymuno arfer yr hawliau hyn, cysylltwch â ni.
Defnyddio cwcis
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis; drwy ddefnyddio a phori drwy’r wefan, rydych yn cydsynio i gwcis gael eu defnyddio yn unol â’r Polisi hwn. Os nad ydych yn cydsynio, mae’n rhaid i chi ddiffodd cwcis neu beidio â defnyddio’r safle. YMA.
Diogelwch
Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif. Mae’n Polisi Diogelu Data mewnol yn manylu ar y camau a gymerwn i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth a gasglwn.
Torri data
Mae’n Polisi Diogelwch Data yn cynnwys proses glir ar gyfer mynd i’r afael ag achos o dorri data personol, pe bai un yn digwydd. Lle’n briodol, byddwn yn eich hysbysu’n syth am unrhyw fynediad heb awdurdod i’ch gwybodaeth bersonol
Diogelwch Data
Mae’n Polisi Diogelu Data a GDPR yn cynnwys proses glir ar gyfer trafod torri data personol, pe bai hynny’n digwydd. Lle’n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn syth am unrhyw fynediad heb awdurdod i’ch gwybodaeth bersonol.
Cwyn
Os ydych am wneud cwyn ynghylch sut y bu i ni drafod eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol a byddwn yn ymchwilio i’r mater. Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.