Bydd Bangor yn dathlu 1500 o flynyddoedd yn 2025, sy’n nodweddu carreg filltir aruthrol gyda blwyddyn lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u cynllunio drwy gydol y flwyddyn. Bydd y dathliadau’n cychwyn gydag arddangosiad tân gwyllt ysblennydd ym Mhier y Garth ar Nos Galan.
Mae bob math o weithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio i anrhydeddu hanes cyfoethog Bangor, ei bywiogrwydd heddiw, a’i dyfodol addawol. Bydd y dathliadau’n arddangos ysbryd y gymuned ac yn amlygu’r dreftadaeth a’r amrywiaeth sy’n gwneud Bangor yn lle unigryw ac arbennig.
Bu Cyngor Dinas Bangor yn gweithio’n agos gyda sefydliadau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol i ddatblygu llond gwlad o ddigwyddiadau sy’n dathlu gorffennol, presennol a dyfodol y ddinas. Yn eu plith y mae gwyliau diwylliannol, ailberfformiadau hanesyddol, gorymdeithiau, digwyddiadau chwaraeon, cystadlaethau, a sgyrsiau addysgiadol, a fydd yn sicrhau bod yna rywbeth i bawb ei fwynhau. Yn ganolog i’r dathliadau hyn y mae ymrwymiad cryf i’r gymuned a threftadaeth Bangor.
I baratoi am y dathliadau, mae Cyngor Dinas Bangor wedi plannu 18,000 o gennin Pedr - un ar gyfer bob mis ers sefydlu’r ddinas yn y flwyddyn 525 – a fydd yn blodeuo mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Bydd plant ysgol hefyd yn nodi’r achlysur drwy gladdu capsiwlau amser o dan goeden goffa, yn nes ymlaen yn 2025.
Dywedodd Cyfarwyddwr Dinas Bangor, Dr Martin Hanks, “Bydd 2025 yn nodi 1,500 mlynedd ers i Deiniol Sant gyrraedd a sefydlu ei anheddiad cyntaf yn 525, ac rydyn ni’n teimlo y dylid dathlu’r garreg filltir hon mewn steil.
“Fel dinas, rydyn ni wedi dod at ein gilydd i lunio rhaglen o ddigwyddiadau a fydd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys Prifysgol Bangor, Cyngor y Ddinas, ysgolion lleol, clybiau chwaraeon, a grwpiau cymunedol - a fydd oll yn gweithio gyda’i gilydd i greu rhywbeth gwirioneddol arbennig.
“Dros y canrifoedd, mae Bangor wedi tyfu, nid yn unig o safbwynt ei harwyddocâd hanesyddol, ond hefyd o ran ei chyfoeth a’i hamrywiaeth ddiwylliannol, gyda phobl o bob math yn dod ynghyd i greu dinas ddynamig a ffyniannus. Mi fydd y flwyddyn hon, sy’n garreg filltir, yn dathlu nid yn unig hanes cyfareddol y ddinas, o’i sefydlu gan Deiniol Sant, i’w chyfraniadau diwylliannol a deallusol bywiog, ond hefyd y dyfodol disglair sydd o flaen Bangor a’i phobl.
“Y gwir uchelgais ydy dod â’r gymuned gyfan ym Mangor ynghyd a hyrwyddo ein dinas wych. Mae Bangor 1500 yn addo i fod yn flwyddyn fythgofiadwy, gyda rhywbeth i bawb - p’un ai o ran mynychu digwyddiadau, cymryd rhan mewn gweithgareddau, neu rannu yn llawenydd y garreg filltir arwyddocaol hon.”
Cynhelir digwyddiad lansio Bangor 1500 ym Mhier y Garth ar 31ain Rhagfyr, yn dechrau am 9pm. Bydd y noson yn cynnwys bwyd, diodydd ac adloniant cerddorol, gydag arddangosiad tân gwyllt yn fuan wedi hanner nos.
Dywedodd Avril Wayte, Cadeirydd Cyfeillion Pier y Garth, “Rydyn ni wrth ein boddau’n cael cyhoeddi digwyddiad tân gwyllt arbennig iawn, sydd wedi’i drefnu ar gyfer Nos Galan ym Mhier y Garth.
“Mae’r pier bob amser yn lle rhyfeddol i ddathlu dyfodiad y flwyddyn newydd, ond mae’r flwyddyn hon yn arbennig o arwyddocaol wrth i ni groesawu 2025, gan nodweddu 1500 mlynedd o hanes ar gyfer Bangor. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni am noson lawn bwyd, diodydd, a cherddoriaeth, wrth edrych ymlaen am hanner nos.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lyn Parry yng Nghyngor Dinas Bangor ar 01248564168.
Am unrhyw ymholiadau o ran y cyfryngau, cysylltwch â Medi Parry-Williams ar 07464097587.
Dewch i fod yn rhan o Ddathliadau 1500 Cadeirlan Bangor!
Dydd Sul Ionawr 26ain.
Eleni, 2025, mae Cadeirlan Bangor a Dinas Bangor yn dathlu 1500 o flynyddoedd ers i Deiniol Sant gyrraedd Bangor a chartrefi ar y safle lle saif Eglwys Gadeiriol Bangor erbyn hyn. Mae hwn yn ben-blwydd pwysig iawn.
Un o'r ffyrdd rydyn ni'n mynd i ddathlu yw hefo chynhyrchiad cerddorol o'r enw 'Dinas Noddfa', sy'n cael ei arwain gan Ysgol Glanaethwy a'u Cyfarwyddwr Artistig, Cefin Roberts.
Bydd y cynhyrchiad yn y Gymraeg a bydd yn cael ei berfformio yn y Gadeirlan yn ystod wythnos olaf Awst 2025.
Ein gobaith yw ffurfio côr o’r gymunedau o amglych Bangor yn arbennig ar gyfer y digwyddiad ac rydym yn estyn gwahoddiad agored i unrhyw un yn y dalgylch i ddod yn aelodau o’r côr. Byddai profiad o fod wedi canu mewn grŵp neu gôr yn ddymunol ond nid yn angenrheidiol. Ymroddiad i’r gwaith fydd y peth pwysicaf a ofynir ohonoch.
Gan obeithio y dewch hefo ni i fod yn rhan o ddathliadau pwysig yn hanes ein Dinas a’n Cadeirlan yn ogystal â’i gweledigaeth wrth edrych tua’r dyfodol.
Byddwn yn cynnal sgwrs agoriadol gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gadeirlan ar brynhawn Sul y 26ain o Ionawr am 4.30yp. Croeso cynnes i bawb!
Am fwy o fanylion cysylltwch â Robert Townsend: 07789 940049 neu roberttownsend@churchinwales.org.uk
Diolch am eich diddordeb hyd yma
Cefin Roberts (Cyfarwyddwr artistig Ysgol Glanaethwy a Dinas Noddfa)
Bydd dechra i dathliadau Dydd Gwyl Dewi pan fydd 18,000 o gennin pedr yn dechrau blodeuo ym Mangor a’r cyffiniau, i nodi bob mis ers sefydlu Bangor yn 525OC. 1af Chwefror (tan 3ydd Mawrth)
Cyngerdd am Ddim yn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae’r traddodiad cerddorol yng Nghadeirlan Deiniol Sant yn mynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd. Ond yn 1972, siglwyd yr adeilad i’w seiliau gan fath gwahanol o gerddoriaeth – roc Cristnogol, a hynny yn y Gymraeg.
Dros hanner canrif yn ddiweddarach, mae ar fin digwydd eto . Ar Chwefror 14, Dydd Sant Folant bydd cyngerdd am ddim.
Mae’r hen ddywediad “gan y diafol mae’r caneuon gorau i gyd” yn mynd yn ôl mor bell a 1773, ond dychwelodd i sylw’r cyhoedd yn 1950au gyda twf yn mhoblogrwydd roc a rôl. Yng ngogledd Cymru, fodd bynnag, roedd pedwar llanc o Fon yn benderfynol o brofi y gallai cerddoriaeth roc hefyd gael ei gysegru i Dduw, a bod modd ei berfformio hyd yn oed yng ngofod Cysegredig Cadeirlan Bangor.
Y pedwar oedd Arfon Wyn, ar y gitâr, Charli Goodhall ar y bas, y diweddar Maldwyn Huws ar y drumiau a Dafydd Slade yn chwarae’r organ drydanol. Daethant at ei gilydd dan yr enw 2The Resurection” a’i newid yn nes ymlaen i’r Atgyfodiad .
A hwythau wedi newid eu enwau sawl gwaith o “The Swamp” ar “Archimedes Principle”,daeth Yr Atgyfodiad yn arloeswyr nid yn unig yn maes roc Cristnogol ond hefyd mewn roc Cymraeg. Roeddent o flaen eu hamser – byddai’n rhaid aros tan 1973 cyn i fandiau roc mwy adnabyddus fel ‘Edward H Dafis’ cael ei ffurfio , ond yr oedd Yr Atgyfodiad eisoes yn dod a’u cyfuniad unigryw o ddysgeidiaeth Gristnogol a seiniau arloesol cyffroes i glyw ieuenctid Cymru.
Hwy oedd un o’r bandiau Cymraeg cyntaf i fod ar dudalen flaen papur newydd Y Cymro, a buont ar lwyfan mewn nifer o ddigwyddiadau roc cofiadwy fel Gwallt yn y Gwynt (Ap Sachlian a Lludw) yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd yn 1972. Roedd 1972 hefyd yn drobwynt gan iddynt fod y band cyntaf i chwarae yn Gadeirlan Bangor.
Trefnwyd y noson gan gangen leol YMCA Cymru. Mae’r Prif gitarydd Arfon Wyn yn cofio fod y Gadeirlan yn llawn i’r ymylon o fyfyrwyr a hipis Bangor ar y pryd. Diolch byth, roedd y ddau garfan yn asio’n dda, gan fwynhau set o roc gwerin gyda’i harmonïau swynol yn ogystal a cherddoriaeth fwy arbrofol a blaengar.
Roedd perfformiad y band mor egnïol , llwyddwyd i chwthu un o’i amps . Llwyddwyd i osgoi trychineb gan i Arfon Wyn gael fflach o ysbrydoliaeth a gofyn a oedd gan unrhyw un or gynulleidfa hefo amp sbâr. Trwy rhyw wyrth, rhuthrodd un o aelodau hir wallt oedd yn gwrando ar y cyngerdd a dod a un o’i fan oedd wedi pharcio gerllaw. Hwyrach fod y gerddoriaeth hon wrth fodd Duw wedi’r cwbl!
Yn dilyn llwyddiant y gig yn y gadeirlan, bu cryn newid yn aelodaeth y band , gyda Charli a Dafydd yn ffurfio y band Children tra bod Nia Edwards a Geraint Tudur yn ymuno a hwy , ac yn ennill dilynwyr lu gyda’u set bywiog.
Daeth eu caneuon cofiadwy ac uchelgeisiol i glyw Dafydd Iwan a Huw Jones a ofynnwyd ir Atgyfodiad recordio ep i’r label Sain. Erbyn hyn roedd yr Aelodath wedi newid unwaith eto. Yn ei Plith oedd cyn aelodau’r band o Dywyn Y Buarth, Gwyndaf Roberts a’r diweddar Keith Snellgrove fel adran rhythm, gyda brawd Gwyndaf, Dafydd yn ymuno ar y ffliwt. Ymunwyd y gitarydd o Fethesda a chyn aelod o’r llwch John Gwyn ar gitâr trydan ir pedwaredd yma ermyn recordio y caneuon.
Yn dilyn ymarfer brwd, trafeilwyd lawr i stiwdio nodedig Rockfield yn Sir Fynwy – a ddaeth yn enwog nid yn unig fel y fan lle bu nifer o sêr byd pop Cymraeg yn recordio, ond lle recordwyd sengl enwog Queen “Bohemian Rhapsody2 ac fe’i ddefnyddiwyd hefyd gan y band o Fanceinion , Oasis.
Yma recordiwyd Yr Atgyfodiad eu hynig EP, a gynhyrchwyd gan Dave Edmunds oedd yn brif cyfansoddwr a canwr y band Love Sculpture a’r sengl ddaeth i frig y siartiau Nadolig yn 1970 2I hear you Knocking”
Gwaetha’r modd roedd yna oedi wrth i’r record cael ei gynhyrchu a’i argraffu , a argraffwyd y clawr y ffordd anghywir. Pam rhyddhawyd yr Ep or diwedd nid oedd llawer o chwarae ar y radio i gael gan fod y caneuon yn hirach na 3 munud. Gadawyd gweddill y band i ffurfio’r band roc blaengar Brân , a daliodd Arfon Wyn ati i gyfuno roc blaengar a gwerin gyda’r band Pererin , gan ennill cystadleuaeth Can i Gymru yn 1979.
Fel rhan o ddathliadau Bangor 1500 a Dydd Miwsic Cymrubydd Arfon Wyn a nifer o westeion arbennig yn perfformio caneuon o gatalog yr Atgyfodiad a Phererin yng Nghadeirlan Bnagor ar Chwefror 14 am 7 o gloch.
Mae’r cyngerdd am ddim , ond cofiwch hawlio eich tocyn ymlaen llaw trwy: www.storiel.cymru
Ac mae’r band eisiau sicirhau pawb na fydd angen dod ag amp Sbâr. https://www.eventbrite.co.uk/e/dathliadau-bangor-1...
Digwyddiad: Gorymdaith Gwyl Dewi
Dyddiad : Dydd Gwenar, 21ain o Chwefror.
Amser: Cychwyn am 12yp. Gorymdaith am 1yp.
Lleoliad: Cychwyn o Storiel, Stryd Fawr, Cadeirlan.
Gorymdaith Gwyl Dewi – 12:00 cyfarfod yn Storiel, gweithgareddau am awr, o gwmpas, Storiel, Pontio a M-Sparc a Neuadd Penrhyn. I wneud efo Dewi Sant a Deiniol, dechrau gorymdeithio am 13:00 o Storiel. O gwmpas y gadeirlan, lawr y stryd fawr, stopio a canu yn y canol, lle mae’r farchnad, mynd trwy Canolfan Deiniol, nol i’r Gadeirlan i ganu.
Digwyddiad: Côr y Gadeirlan CD Cerddoriaeth Eglwysig Newydd
Dyddiad:Dydd Sadwrn Mawrth 1af
Lleoliad: Cadeirlan Bangor
Digwyddiad: Marchnad Crefftwyr
Dyddiad: Dydd Sul Mai 18
Lleoliad: Stryd Fawr Bangor
Digwyddiad: Dinas Noddfa - Cynhyrchiad Theatr
Dyddiad: Dydd Gwener 29 a dydd Sadwrn 30 Awst
Lleoliad: Cadeirlan Bangor
Digwyddiad: Gŵyl Ddeiniol
Dyddiad: Dydd Iau Medi 11eg
Lleoliad: Cadeirlan Bangor
Digwyddiad: Addoliad yn fyw ar Radio 4
Dyddiad: Dydd Sul Medi 14eg
Lleoliad: Cadeirlan Bangor
Digwyddiad: Dathliad a Chynhadledd yr Esgobaeth
Dyddiad: Dydd Sadwrn Hydref 4ydd
Lleoliad: Cadeirlan Bangor