Bangor City Council

Cyngor Dinas Bangor

Croeso i wefan Cyngor Dinas Bangor.

Ar y wefan mae gwybodaeth am ddinas Bangor, beth sy’n digwydd yma a hefyd peth o’i chefndir a’i hanes. Mae cysylltiad yma i wybodaeth am y Stryd Fawr, i’r gwahanol atyniadau yn ardal Bangor ac i ddigwyddiadau sy’n cymryd lle yn y Ddinas yn y dyfodol agos. Cewch hefyd ddysgu am Gyngor Dinas Bangor a pha wasnaethau y mae’n ei ddarparu i’r gymuned. Mae amserlen i’r Cyngor a’i Bwyllgorau a chofnodion y cyfarfodydd hynny.


Digwyddiad Arbennig i Nodi Canmlwyddiant yr RAF ym Mangor dydd Sadwrn, 8 Medi 2018

Fel rhan o raglen o ddigwyddiadau yng Nghymru i gofio a dathlu Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, bydd dinas Bangor yn cynnal gorymdaith fawr a hedfan drosodd i’r Llu Awyr ddydd Sadwrn 8 Medi. Bydd hwn yn un o ddigwyddiadau olaf y Canmlwyddiant a’i fwriad yw cydnabod y cysylltiadau cryf sydd wedi bod rhwng Gogledd Cymru a’r RAF dros y can mlynedd yna.

I Fangor, mae’r cysylltiadau hyn yn mynd yn ôl reit i ddechrau’r RAF, pan ddaeth “RAF Bangor” yn weithredol yn 1918, gyda Sgwadron rhif 244 yn hedfan awyrennau Airco DH6 o Abergwyngregyn, yn cynnal patrolau gwrth longau tanfor ym Môr Iwerddon. Er i RAF Bangor gau yn fuan wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae hwn yn dal i fod yn gysylltiad unigryw ac arbennig i ddinas Bangor ei gofio wrth i’r RAF ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2018. A heddiw, mae’r cysylltiadau cryf rhwng Bangor a’r RAF yn parhau, gyda RAF Fali wedi cael Rhyddid y Ddinas ers 23 Mawrth 1974.

Ddydd Sadwrn 8 Medi, bydd dathliadau Canmlwyddiant yr RAF yn dod i Fangor, gyda staff RAF Fali, fel Rhyddfreinwyr Dinas Bangor, yn gorymdeithio drwy strydoedd y ddinas. Yn ymuno â nhw bydd Band Canolog yr Awyrlu, ynghyd â nifer o Gadetiaid Awyr o sgwadronau ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y bore’n dechrau gyda Gwasanaeth Arbennig i ddathlu’r Canmlwyddiant yn y Gadeirlan, am 0945 am, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd fod yn bresennol. Am 11.15am, bydd yr orymdaith yn dangos arfau wrth y Gofeb Ryfel, pryd bydd awyrennau Hawk o RAF Fali yn hedfan drosodd. Yna byddant yn cael eu croesawu gan Ei Deilyngdod Maer Bangor, Arglwyddi Rhaglaw Gwynedd a Chlwyd ynghyd â gwesteion anrhydeddus o bob cwr o Ogledd Cymru. Prif swyddog yr RAf yn yr orymdaith fydd Marsial yr Awyrlu Michael Wigston, a gafodd ei fagu ym Mangor ac a fu’n ddisgybl yn Ysgol Friars.

Am tua 11.40am bydd yr Orymdaith yn camu oddi ar y Gofeb Ryfel i arfer y Rhyddid, gan orymdeithio heibio’r Gadeirlan a throi i’r chwith i lawr Stryd Fawr y Ddinas. Wrth y Cloc bydd y Maer, yr Arglwyddi Rhaglaw a Marsial Wigston yn cydnabod y saliwt. Yna bydd yr Orymdaith yn mynd ymlaen i lawr y Stryd Fawr i Stryd y Deon, ac yna’n camu allan tua 12.00pm.

Dywedodd Maer Bangor, y Cynghorydd John Wynn Jones “Mae gan Fangor a sawl ardal arall dros Ogledd Cymru gysylltiadau cryf â’r Awyrlu dros nifer o flynyddoedd ac mae’n fraint i Fangor gael croesawu’r digwyddiad pwysig hwn i nodi Canmlwyddiant yr RAF. Gyda’r Awyrlu’n gorymdeithio drwy strydoedd Bangor mae’n rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad o’r teyrnarwch, yr ymroddiad a’r gwasanaeth ardderchog a roddodd yr RAF dros y can mlynedd diwethaf, ar nifer o lu’r RAf a gollodd eu bywydau yn ystod y cyfnod hwn. Bydd cael awyrennau Hawk o RAF Fali yn hedfan a’r Orymdaith drawiadol a lliwgar, yn achlysur cofiadwy ac yn werth eu gweld. Dylai pawb o Fangor a’r cyffiniau wneud ymdrech i ddod i fod yn rhan o’r dathliad.”

Mae gan y Cyngor Dinas bryderon mawr ynghylch llygredd plastig sy'n broblem amgylcheddol enfawr sy'n peryglu bywyd morol.

Mae’r Cyngor Dinas yn nodi:

  • Mae tua 12.7 miliwn o dunelli o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn (neu gyfwerth a llond tryc o blastig y funud).
  • Mae malurion plastig yn achosi marwolaethau o fwy na miliwn o adar y môr bob blwyddyn, yn ogystal â mwy na 100,000 o famaliaid morol, yn ôl UNESCO.
  • Mae gwastraff plastig yn diflannu ar strydoedd a meysydd chwarae'r Ddinas ac yn ehangach yng Nghymru.
  • Er gwaethaf rhai ymdrechion i liniaru'r materion ee tâl am fagiau siopa untro, mae problem llygredd plastig yn parhau.
  • Yn ddiweddar, mae sefydliadau amgylcheddol rhyngwladol wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i godi ardoll ar wastraff plastig fel cwpanau coffi, na ellir eu hailgylchu.
  • Yn ddiweddar, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio i gefnogi cynlluniau ar gyfer ardoll ar blastigau un defnydd yng Nghymru..

Mae’r Cyngor Dinas a'i Aeloday felly:

a. yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu fel mater o frys i weithredu ardoll ar blastigau untro yng Nghymru yn ogystal ag ystyried codi ardoll ar bob plastig i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol; a

b. byddwn hefyd yn ymdrechu i weithio gyda phob partner o bob sector o fewn y Ddinas i weithio tuag at wneud Bangor yn ddinas ddi blastig.

Pier Garth Bangor Prosiect Adnewyddu

Mae Cyngor Dinas Bangor wedi penderfynu atgyweirio ac adfer Pier y Garth sydd heb gael unrhyw waith mawr ers nifer o flynyddoedd ac sydd bellach angen ei adnewyddu. Roedd y rhaglen adfer ac adnewyddu ddiwethaf yn 1986.

Oherwydd natur beryglus y gwaith, mae angen cryn dipyn o sgaffaldiau, yn ogystal â mesurau Iechyd a Diogelwch llym. Mae gofyniad hefyd i waredu’r holl ddeunyddiau gwastraff mewn modd sy’n cydymffurfio â rheoliadau. Gwnaed cais am Drwydded Forol a chyflwynwyd y cais i Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae trafodaethau wedi’u cynnal â phartïon eraill â diddordeb.

Mae Cyngor y Ddinas yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra yn ystod y prosiect adeiladu ond mae angen gwneud y gwaith hwn i sicrhau fod y Pier yn sefydlog a diogel fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei fwynhau.

Pier Garth Bangor: Prosiect Adfer – Cau Pen Draw’r Pier


Tynnu Byrddau ‘Ar Osod’ ar Dai Myfyrwyr a HMOs yn Ninas Bangor

Gyda chytundeb asiantaethau gosod Dafydd Hardy, Varsity a Williams and Goodwin, mae Byrddau ‘Ar Osod’ Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) a thai Myfyrwyr wedi cael, neu yn mynd i gael eu tynnu o bob eiddo yn y Ddinas. Gwneir hyn er mwyn gwella amwynder gweledol ac ymddangosiad cyffredinol yr ardal gan ein bod wedi cael sylwadau a phryderon am nifer yr arwyddion oedd yn cael eu dangos. Bydd swyddogion Cyngor Gwynedd yn mynd at yr asiantaethau gosod eraill sydd â byrddau i’w darbwyllo i ddilyn y ‘cytundeb dealltwriaeth’ hwn.

Credwn fod hyn yn golygu y bydd dros 600 o Fyrddau ‘Ar Osod’ wedi’u tynnu yn y diwedd.

Llwyddwyd i wneud hyn drwy waith Grŵp Delwedd Bangor o dan Gadeiryddiaeth y Cynghorydd John Wynn Jones. Mae hwn yn ganlyniad ardderchog a bydd yn gwella golwg y Ddinas yn fawr. Diolch i swyddogion Cyngor Gwynedd am eu cymorth ac i’r Asiantaethau am eu hewyllys da a’u cydweithrediad.

Dyma enghraifft wych o bawb yn gweithio gyda’i gilydd i gael canlyniadau gweladwy yn y Ddinas.